Elfed Morgan Morris

Elfed Morgan Morris

Elfed Morgan Morris

16 10 2009

Bydd y canwr Cymreig o fri Elfed Morgan Morris yn perfformio yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru eleni.

Daeth Elfed, sy’n athro yn Ysgol John Bright, Llandudno, yn enwog yn gynharach eleni wrth iddo ennill cystadleuaeth Cân i Gymru gyda’i gân Gofidiau.

Er bod ei ganddo fywyd prysur fel athro, mae Elfed hefyd yn arwain y côr lleol, Côr Cofnod, ac mae’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r digwyddiad.

Bydd yn perfformio tra bydd y beirniaid yn beirniadu’r Cyngerdd Enillwyr gyda’r nos a bydd yn rhywbeth pleserus i dynnu sylw’r corau sy’n aros i glywed y cyhoeddiad hollbwysig.

Tystebau

Mae Llandudno yn hyfryd – mae’r bobl yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn

Vera Byrne, Cantorion Glenalua

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council