Yn galw Cantorion Siop Barbwr!

Yn galw Cantorion Siop Barbwr!

Yn galw Cantorion Siop Barbwr!

10 02 2010



“Bydd Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru 2010 y gorau erioed” Alun Pritchard, trefnydd

Fel sydd i’w ddisgwyl gan yr ŵyl hon bellach, bydd rhai o gorau mwyaf talentog Prydain ac Iwerddon yn cystadlu yn y gystadleuaeth gyffrous yn y dydd, i ddewis y goreuon ar gyfer cyngerdd yr enillwyr gyda’r nos.

Categorïau ychwanegol eleni i’r categorïau arferol, sef ieuenctid, cymysg, merched a meibion, yw cantorion siop barbwr. “Mae’r categori newydd hwn yn gyffrous iawn, a bydd yn ychwanegu dimensiwn newydd i’r gystadleuaeth” Dilwyn Morgan, arweinydd

Os hoffech gymryd rhan gyda’ch côr ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein tudalennau rheolau neu ffoniwch Alun Pritchard ar (01492) 575948

Cofiwch nodi’r dyddiad yn eich dyddiadur – dydd Sadwrn, 6 Tachwedd!

Tystebau

Hon oedd ein cystadleuaeth gorawl gyntaf a gwnaethom fwynhau’r profiad yn fawr

Merfyn Walters, Ysgrifennydd Côr y Dreigiau

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council