Penderfynu’n derfynol pwy fydd y beirniaid

Penderfynu’n derfynol pwy fydd y beirniaid

Penderfynu’n derfynol pwy fydd y beirniaid

21 09 2009

Cadarnhawyd mai beirniaid yr Ŵyl eleni fydd Jeffrey Wynn Davies, Peter Broadbent a Nia Morgan.

Dyma’r tro cyntaf i Jeffrey feirniadu yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru, ond mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad beirniadu mewn gwyliau a chystadlaethau fel Gwyliau Corawl Praha a Verona, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gŵyl Genedlaethol ‘Music for Youth’, a llawer rhagor.

Mae Peter a Nia wedi beirniadu yn ein Gŵyl o’r blaen ac maent yn edrych ymlaen at ddychwelyd atom am flwyddyn arall.

Mae bywgraffiadau’r beirniaid i gyd i’w gweld ar y wefan.

Tystebau

Hon oedd ein cystadleuaeth gorawl gyntaf a gwnaethom fwynhau’r profiad yn fawr

Merfyn Walters, Ysgrifennydd Côr y Dreigiau

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council