Dyddiad ar gyfer eich Dyddiadur

Dyddiad ar gyfer eich Dyddiadur

Dyddiad ar gyfer eich Dyddiadur

07 12 2009

Efallai eich bod yn dechrau dod at eich hun ar ôl cyngerdd eleni, ond rydym am roi gwybod i chi ein bod wedi cadarnhau’r dyddiad ar gyfer 2010!

Oes, mae llai na 12 mis cyn ein bod yn gwneud yr holl beth eto ac rydym am i chi ddod draw hyd yn oed i ddim ond canu fel un o’r gynulleidfa.

Cynhelir Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru 2010 ddydd Sadwrn, Tachwedd 6, yn Venue Cymru, Llandudno.

Rydym am ddilyn y fformat arferol o gystadleuaeth wedi’i rhannu yn ystod y dydd gyda chyngerdd i enillwyr gyda’r nos ac oherwydd bod yr ŵyl wedi dyblu o ran niferoedd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym yn gobeithio bod yn llawn dop gyda chorau a dilynwyr cerdd gorawl.

I gael rhagor o wybodaeth am gystadlu eich côr cysylltwch ag alun.pritchard@conwy.gov.uk neu ffoniwch (01492) 575948.

Tystebau

Digwyddiad oedd wedi’i drefnu yn dda, a gwybodaeth ar gael yn rhwydd gan staff allweddol drwy’r amser

Cynrychiolydd Côr y Gleision

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council