Cyhoeddi Enillwyr 2009

Cyhoeddi Enillwyr 2009

Cyhoeddi Enillwyr 2009

17 11 2009

Llandudno oedd y lle i fod ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd, wrth i 19 côr o bob rhan o Brydain ac Iwerddon gyrraedd i gystadlu yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru 2009.

Ar ôl cystadleuaeth frwd a thrafodaethau dwys cyhoeddwyd mai’r canlynol oedd enillwyr yr adrannau unigol:

Ieuenctid: Côr Ieuenctid Môn
Cymysg: Friday Voices
Merched: Friday Voices
Meibion: Shifnal & District Male Voice Choir

Cafwyd cyngerdd ardderchog gan yr enillwyr gyda’r nos, a thra roedd y beirniaid yn gwneud penderfyniad anoddaf y dydd, cafodd y gynulleidfa adloniant gan enillydd Cân i Gymru, Elfed Morgan Morris.

Ond, roedd rhaid penderfynu ar un enillydd, a chyhoeddodd yr arweinydd, Dilwyn Morgan mai’r enillwyr eleni oedd Côr Cymysg Friday Voices. Roeddent yn falch iawn o gael derbyn tlws yr enillwyr, yn ogystal â’r wobr ariannol.

Cadarnhawyd mai dyddiad yr Ŵyl yn 2010 fydd dydd Sadwrn, 6 Tachwedd ac unwaith eto, bydd yn cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno.

Tystebau

Thank you for making Affinity welcome for the second year running, your team worked tirelessly.  Please thank them for their patience and hospitality.  Choirs - do sign up for next year.  It's a great seaside town, wonderful hotels and something for jsut about everybody - love it!!

Lesley Carson, Affinity Show Choir, 2011

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council