Venue Cymru

Venue Cymru

Venue Cymru

Cynhelir yr ŵyl yn Venue Cymru, Llandudno, gyda theatr, canolfan gynadledda ac arena. Bu theatr yno ers 1894. Fe’i galwyd yn wreiddiol yn Victoria Palace, a dim ond adeilad dros dro yr oedd i fod ond daeth yn dirnod ar y promenâd am dros fwy na 100 mlynedd.

Ym 1915, prynodd Wil Caitlin y theatr a’i hail enwi yn Arcadia. Roedd 1147 o seddau yn yr Arcadia a hon oedd yr unig un o chwe theatr Llandudno i oroesi dros y blynyddoedd.

Ym 1982 agorodd Canolfan Aberconwy drws nesaf i theatr yr Arcadia. Roedd yna le cynadledda ar gyfer mwy na 1000 o bobl yn ogystal â chanolfan sboncen, gwelyau haul a chyfleusterau badminton!

Ym 1994 caeodd y llen ar yr Arcadia, ac ailddatblygwyd ac ailenwyd  Canolfan Aberconwy a ganwyd Theatr a Chanolfan Gynadledda Gogledd Cymru. Roedd ynddi awditoriwm â 1500 sedd. Roedd y ganolfan drws nesaf yn darparu amrywiaeth o gyfleusterau cynadledda gan gynnwys neuadd 700 metr sgwâr.

Anghofiwyd am theatr wreiddiol yr Arcadia a bu yno yn adfeilio tan fis Gorffennaf 2005 pan ddechreuodd gweithwyr weithio ar brosiect £10.7 miliwn i wella ac ailddatblygu’r cyfleusterau yn y ganolfan. Lle safodd yr Arcadia unwaith, adeiladwyd atriwm gynadledda newydd.

Tua’r gorllewin o’r adeilad a oedd yn sefyll, adeiladwyd estyniad arall gan ddarparu bar caffi, tŷ bwyta, gofod swyddfa a chyfleusterau swyddfa docynnau gwell. Ariannwyd y gwelliant hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’i bartneriaid.

Mynnodd y ganolfan enw newydd, byrrach, dwyieithog. Yn 2005, lansiwyd cystadleuaeth i ailenwi’r ganolfan. Agorodd Venue Cymru yn swyddogol yn 2007 ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel cyfnod newydd ar gyfer adloniant, cynadledda a digwyddiadau yn Llandudno.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.venuecymru.co.uk

Tystebau

Congratulations on another very well organised event.  In organisational terms yours in certainly one of the best.  The opportunity to warm up in a proper sized room (provided with a piano), is something many competitions can't, or won't do.  Listening to all the other choirs in the competition was also a very good move.

Christopher McElroy, Musical Director, Bradford Girls Choir

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council