11 03 2010

Mae’n bleser ymweld â Chymru ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond os ydych yn digwydd bod yma ym mis Mawrth mae teimlad arbennig yn yr awyr bob amser. Y rheswm am hyn yw ein bod yn dathlu ein nawdd Sant, Dewi Sant ar 1 Mawrth.

Mae cennin Pedr, cennin a’r ddraig yn symbolau o ddiwylliant Cymreig, ond fel y mae’r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod rydym wrth ein boddau’n canu hefyd. Hen Wlad Fy Nhadau yw ein hanthem genedlaethol, sy’n aml yn cael ei chlywed mewn stadiwms rygbi ar draws y byd, ond mae’n swnio’n wych pan mae côr yn ei chanu.

Felly, rydym mor falch ag erioed i estyn croeso cynnes Cymreig a byddem wrth ein boddau i’ch croesawu chi draw; naill ai gyda’ch côr neu fel rhan o’r gystadleuaeth; neu fel gwyliwr bodlon yn canu gyda’r dorf.

Cynhelir Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Sadwrn, 13 Tachwedd. Dewch i gael golwg ar weddill y wefan i wybod sut y gallai eich côr gymryd rhan neu i archebu tocynnau.

Tystebau

Digwyddiad oedd wedi’i drefnu yn dda, a gwybodaeth ar gael yn rhwydd gan staff allweddol drwy’r amser

Cynrychiolydd Côr y Gleision

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council