Mae’r dyddiad cau yn nesáu

Mae’r dyddiad cau yn nesáu

Mae’r dyddiad cau yn nesáu

19 09 2011

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yw 23 Medi ac mae’n nesáu yn gyflym!  Lawr lwythwch ffurflen gais rŵan yn www.gwylgorawlgogleddcymru.co.uk cyn y bydd yn rhy hwyr!! 

Gyda chyfanswm cronfa wobrau o £4,500, bydd corau o bob rhan o’r DU a hyd yn oed Ewrop erbyn hyn yn teithio i Venue Cymru yn Llandudno i gymryd rhan yn yr ŵyl fawreddog hon.

Mae’r ŵyl, a gynhelir ar 5 a 6 Tachwedd, mor boblogaidd ei fod wedi’i ehangu yn ŵyl 2 ddiwrnod eleni ac mae rŵan yn cynnwys categori agored newydd yn lle cyngerdd enillwyr.  Bydd pob un o’r 5 categori: ieuenctid, cymysg, merched, meibion, siop barbwr ac agored, yn cystadlu am wobrau ariannol o £500 am y wobr gyntaf, £200 am yr ail wobr a £100 am y drydedd wobr.

Mae’r trefnwyr hyd yn oed wedi trefnu cyngerdd gyda’r nos gyda Faryl Smith a gwesteion, ac mae tocynnau ar gael am bris gostyngedig o £10 y tocyn i’r corau sydd wedi cofrestru!!  Ar ôl cofrestru, bydd y corau yn cael cod gostyngiad ar gyfer y cyngerdd.

Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y cystadlaethau dydd a chyngerdd Faryl Smith trwy ddilyn y ddolen gyswllt ar y dudalen gartref neu ffonio’r swyddfa docynnau ar 01492 872 000.

Tystebau

We had a wonderful weekend in your lovely Llandudno.  The ladies always enjoy this 'gig'.  It's like coming home! 

Siobhan Seberry, Sonata Singers 2011

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council