Cyfarfod y Beirniaid

Cyfarfod y Beirniaid

Cyfarfod y Beirniaid

16 08 2011

Mervyn Cousins

Roedd Mervyn Cousins yn ddisgybl ac yn aelod o Gôr Eglwys Gadeiriol yn Ysgol y Gadeirlan, Southwell, Swydd Notingham ac yna darllenodd Gerddoriaeth (BMus ac MMus) yng Ngholeg Brenhinol Holloway, Prifysgol Llundain, lle'r oedd yn Ysgolhaig ar yr Organ. Enillodd wobrau yn y Brifysgol ac yn arholiadau Coleg Brenhinol yr Organyddion.

Ar ôl dysgu yn Llundain, a chael ei benodi i chwarae’r organ yn Eglwys St Bride’s, Fleet Street a St James’, Gerddi Sussex, penodwyd Mervyn yn Gyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol yn Eglwys Gadeiriol Edmundsbury yn 1987, lle ddaeth yn Gyfarwyddwr Cerdd yno yn 1993.

Roedd Mervyn yn Gyfarwyddwr Cerdd yn yr Eglwys Gadeiriol Metropolitan o 1997 tan haf 2003, ac roedd hefyd yn Organydd i Brifysgol Lerpwl yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yn Gyfarwyddwr Cerdd ac yna’n Brif Weithredwr ar Eisteddfod Gerddorol Gydwladol fyd-enwog Llangollen rhwng mis Medi 2003, a mis Gorffennaf eleni. Mae bellach yn cyfuno gwaith arholi a beirniadu gartref a dramor gyda phrosiectau cyfarwyddo corau mewn ysgolion.

 

Chris Mallinson

Mae Chris wedi gweithio’n rheolaidd gyda nifer o gorau uchel eu parch ac mae galw mawr amdano fel hyfforddwr corau a ‘sortiwr’ grwpiau corawl o wahanol arddulliau, o ensembles i bedwarawdau a chorysau Siop Barbwr.

Mae Chris wedi beirniadu mewn gwyliau corawl mawreddog gan gynnwys ‘Côr y Flwyddyn’ ac yn dilyn llwyddiant rhyngwladol Choros Amici, mae wedi dechrau mentro ymhellach i ffwrdd i feirniadu mewn gwyliau yn Ewrop.

Mae yma yn Llandudno ar ôl ennill y gystadleuaeth gyffredinol gyda’i gorau oedolion ‘rheolaidd’ (Friday Voices yn 2009 a Choros Amici yn 2010), gan obeithio efallai y bydd hyn yn ei rwystro rhag dod a chôr arall i gystadlu yma!

Tystebau

Mae Llandudno yn hyfryd – mae’r bobl yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn

Vera Byrne, Cantorion Glenalua

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council