Cyflwyno’r beirniaid newydd!

Cyflwyno’r beirniaid newydd!

Cyflwyno’r beirniaid newydd!

18 06 2010

Yn ddiweddar, rhoesom wybod i chi fod trefnwyr Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru wedi llwyddo i benodi’r gŵr profiadol Mark Grindall o’r British Association of Barbershop Singers (BABS) fel beirniad ar gyfer panel 2010.

Mae rŵan yn bleser gennym gyhoeddi mai’r ddau feirniad arall fydd Mervyn Cousins o Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen a Bernie Sherlock o’r Association of Irish Choirs (AOIC), a’r ddau ohonynt yn newydd i’r ŵyl.

Mae Mervyn Cousins wedi mwynhau cyfnod fel Cyfarwyddwr Cerdd yng nghadeirlannau St Edmundsbury a Metropolitan, cyfnod fel Meistr Corawl yng Ngŵyl Bury St Edmunds a chyfnod fel Organydd ym Mhrifysgol Lerpwl. Dechreuodd weithio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2003 ac yn ddiweddar cafodd ei benodi yn Brif Weithredwr yr Eisteddfod. 

Mae Bernie Sherlock yn uchel ei pharch yn y maes corawl yn Iwerddon, ac wedi cael nifer o lwyddiannau. Hi yw Cyfarwyddwr Cerdd Cymdeithas Gorawl Culwick yn ogystal ag arweinydd New Dublin Voices. Mae hi’n raddedig o NUI Maynooth ac wedi dysgu ar gyfer yr AOIC, ac yn 2008 cafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig yr ysgol haf flynyddol.

Cynhelir yr ŵyl ddydd Sadwrn, 6 Tachwedd yn Venue Cymru yn harddwch Llandudno. Gallwch wneud cais i gystadlu trwy lawr lwytho’r ffurflenni ar y wefan hon. Gallwch hefyd archebu tocynnau ar gyfer cystadlaethau’r dydd a’r nos trwy ddilyn y ddolen gyswllt ar y dudalen hafan.

Tystebau

Hon oedd ein cystadleuaeth gorawl gyntaf a gwnaethom fwynhau’r profiad yn fawr

Merfyn Walters, Ysgrifennydd Côr y Dreigiau

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council