24 05 2010

Beirniad newydd!

Fel tasai Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru ddim digon cyffrous fel mae hi, gallwn rŵan gadarnhau bod gennym feirniad newydd sbon! Gan arbenigo mewn perfformiadau Siop Barbwr, mae gan Mark Grindall doreth o wybodaeth a phrofiad yn ei faes fel canwr, cyfarwyddwr cerdd a beirniad.

Mae Mark wedi bod yn aelod o Gymdeithas Brydeinig Canwyr Siop Barbwr (BABS) ers 1981 ac wedi cael gyrfa amrywiol gyda sawl gwobr i’w enw. Mae ei uchafbwyntiau’n cynnwys, ymddangosiad mewn pedwarawd ar draws Ewrop a’r UDA efo’r gynulleidfa fwyaf erioed o 500 miliwn ar gyfer darlledu noson agoriadol Disneyland Paris; medalau aur Prydeinig ac Ewropeaidd a chyn gadeirydd diweddaraf gild beirniaid BABS.

“Rydym yn falch iawn o groesau Mark ar ein panel”, meddai Alun Pritchard, trefnwr y digwyddiad. “Roedd cyflwyno’r adran Siop Barbwr yn beth newydd i ni yma yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru, ac mae’n beth cyffrous dod ag elfen newydd ddeinamig i’r ŵyl. Gydag arbenigedd beirniadu Mark, gobeithiwn bydd yr ŵyl yn parhau i ddatblygu”.

Os hoffech fwy o wybodaeth am gymryd rhan yng Ngŵyl eleni, mae croeso i chi ddod draw i edrych ar y safle neu cysylltwch efo Alun am sgwrs ar (01492) 575948. Fe’ch cynghorwn i archebu tocynnau ymlaen llaw, rhag cael eich siomi. Cofiwch bydd gŵyl eleni yn cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno dydd Sadwrn, Tachwedd 6.   

Tystebau

Thank you for making Affinity welcome for the second year running, your team worked tirelessly.  Please thank them for their patience and hospitality.  Choirs - do sign up for next year.  It's a great seaside town, wonderful hotels and something for jsut about everybody - love it!!

Lesley Carson, Affinity Show Choir, 2011

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council