{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDo0NTI6aGVpZ2h0OjE1ODpzY2FsZW1vZGU6Y3JvcDo=}.jpg)
Mezzo-soprano Sioned Terry
21 07 2010
Eleni, gall corau pryderus fwynhau perfformiad gan y Mezzo-soprano Sioned Terry wrth iddynt aros am eu canlyniadau.
Wrth i’r beirniaid ddyfarnu, bydd Sioned yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i repertoire amrywiol sy’n cynnwys clasuron poblogaidd Lieder, Oratorio, cerddoriaeth Gymreig a theatr cerdd.Mae Sioned wedi cael y fraint o ganu cerddoriaeth newydd sbon ar gyfer y llais a’r Delyn gyda'r delynores enwog Cartin Finch, gan berfformio mewn lleoliadau mawreddog fel Eglwys Gadeiriol Tŷ Ddewi, Sir Benfro a Neuadd y Dref Cheltenham.
Fel gwraig, mam ac athrawes gerddoriaeth brysur, mae’n syndod fod Sioned yn cael amser i berfformio mewn amrywiaeth mor fawr o ddigwyddiadau a gwyliau cerddorol, a'r diweddaraf ohonynt oedd Gŵyl Gerddorol Glasurol Conwy.Mae Sioned wedi profi llwyddiant ar y llwyfan Cenedlaethol a Rhyngwladol ac wedi ennill teitlau yn y gorffennol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod Gydwladol Llangollen.
Cynhelir Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Sadwrn 6 Tachwedd.
Gallwch gystadlu drwy lawrlwytho’r ffurflenni o’r wefan hon. Gallwch hefyd archebu tocynnau ar gyfer cystadlaethau’r dydd a’r nos drwy glicio ar y ddolen gyswllt ar y dudalen gartref.{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)