Ymunwch â’r Gystadleuaeth Rŵan

Ymunwch â’r Gystadleuaeth Rŵan

Ymunwch â’r Gystadleuaeth Rŵan

23 08 2010

Efo dim ond mis i fynd, mae’r dyddiad cau yn dynesu. Lawrlwythwch ffurflen gystadlu rŵan a’i chyflwyno cyn 24 medi er mwyn sicrhau eich lle yng nghystadleuaeth eleni. Efo cronfa wobr o £4,500, mae hon yn gystadleuaeth na fedrwch ei methu.

Efo 5 categori yn cynnig gwobr ariannol o £500 yr un, £200 am yr ail le a £100 am y trydydd, mae hi hefyd yn bosibl i un côr ennill y prif gyfanswm o £1,000 trwy ennill y côr gorau, gan hefyd enill eu gategori, a bod yn bencampwr ein gŵyl.  

Cynhelir Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Sadwrn 6 Tachwedd. Gallwch roi eich enw lawr ar gyfer y gystadleuaeth trwy lawrlwytho’r ffurflenni oddi ar y wefan hon. Gellir archebu tocynnau ar gyfer cystadlaethau’r dydd a’r nos trwy ddilyn y ddolen gyswllt ar yr hafan neu alw’r swyddfa docynnau ar 01492 872 000.

Tystebau

Mar trefn gyffredinol yr ŵyl yn wych - amseru, cyfleusterau ymarfer etc

Margaret Daneil, Cor Merched Bro Nest

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council