13 04 2010

Newidiwyd dyddiad Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru 2010.  Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal dydd Sadwrn, 6 Tachwedd yn Venue Cymru, Llandudno, wythnos yn gynharach nag a drefnwyd yn wreiddiol .

Hoffem ymddiheuro’n ddiffuant i chi am y newid anffodus hwn i’r dyddiad, ond rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn parhau i ystyried dod i’r Ŵyl eleni .

Gallwn eich sicrhau y bydd yr Ŵyl yn cael ei rheoli’n broffesiynol a bydd trefn y digwyddiad ei hun yn cynnal y safonau uchel arferol y mae’r corau sy’n cystadlu o flwyddyn i flwyddyn bellach yn ei ddisgwyl.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r Ŵyl, ffoniwch Alun Pritchard y trefnydd ar (01492) 575948 neu anfonwch e-bost at: alun.pritchard@conwy.gov.uk 

 

Tystebau

Digwyddiad oedd wedi’i drefnu yn dda, a gwybodaeth ar gael yn rhwydd gan staff allweddol drwy’r amser

Cynrychiolydd Côr y Gleision

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council