{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDo0NTI6aGVpZ2h0OjE1ODpzY2FsZW1vZGU6Y3JvcDo=}.jpg)
Gŵyl 2011
02 12 2011
Cymerodd Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru gam enfawr arall tuag at y nod o fod yn un o brif wyliau corawl y DU pan ddaeth 25 o gorau ynghyd i Venue Cymru yn Llandudno ar gyfer y digwyddiad a oedd ar ei phedwaredd flwyddyn ar hugain. Cymerodd corau o Gymru, Lloegr ac Iwerddon ran mewn 6 dosbarth dros gyfnod yr ŵyl a oedd am y tro cyntaf yn cael ei chynnal dros ddeuddydd. Ddydd Sadwrn cynhaliwyd cystadlaethau’r Corau Ieuenctid, y Corau Cymysg, y Corau Merched a’r Corau Meibion, ac ar y dydd Sul cynhaliwyd y gystadleuaeth canu siop barbwr a’r gystadleuaeth agored.
Yn y categori Ieuenctid, o fewn trwch blewyn llwyddodd Bradford Girls Youth Choir i guro Côr Ieuenctid Môn, a ddaeth yn ail, a Chôr Coleg Sant Cecilia o Ogledd Iwerddon, a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth. Côr o Gymru fu’n fuddugol yn yr adran Gymysg, gyda Chôr y Gleision yn gyntaf, Côr Prifysgol Lancaster yn ail ac Acquire o Ruddlan yn drydydd.
Ar ôl cinio, camodd y merched ar y llwyfan mewn adran gystadleuol iawn, lle daeth The Chanterelles, o Swydd Gaerlŷr yn fuddugol. Yn ail agos iddynt hwy, daeth Renaissance, ac yna Opus 44 o Swydd Efrog. Aeth dau gôr lleol benben yn adran y Corau Meibion, a noddwyd gan y cyflenwyr dillad Lyn Oakes, lle cipiodd Côr Meibion y Fflint y wobr gyntaf, a Chôr Meibion Colwyn yn ail.
Y tro hwn, cafodd elfen ychwanegol ei chynnwys ar nos Sadwrn yr ŵyl, gyda chyngerdd gan Faryl Smith, un o’r cystadleuwyr a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar Britain’s Got Talent. I’w chefnogi hi, cafwyd perfformiad gan y pedwarawd llinynnol Raven, a’r ‘llais o baradwys’ Lucy Kelly o Fôn. Tyrrodd cynulleidfa fawr i’r arena yn Venue Cymru ar ôl y tân gwyllt, ac fe gafodd pawb fwynhau perfformiad gan Faryl o’r clasur Calon Lân i gloi’r cyngerdd.
Ddydd Sul, daeth y corau siop barbwr a’u miri a’u hwyl i’r dref. Noddwyd eu categori hwy gan Westy’r St George. Roedd yn wych gweld y naill gôr yn cefnogi’r llall, wrth i Heartbeat o Swydd Gaer ennill y wobr gyntaf gyda’r Abbey Belles o Swydd Efrog yn dynn ar eu sodlau. Dosbarth olaf y dydd oedd y categori agored a noddwyd gan Gyngor Tref Llandudno. Enillwyd y gystadleuaeth hon hefyd gan Heartbeat, a serennai o’r llwyfan yn eu gwisgoedd sgleiniog a gwên ar wyneb bob un.
Roedd y beirniaid Mervyn Cousins, Chris Mallinson a Gwyn Williams wedi’u gwefreiddio gan yr ŵyl a’r potensial i’w datblygu ymhellach eto. Trefnir yr ŵyl gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r prif noddwyr yw Stena Line. Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Alun Pritchard, “rydym yn falch dros ben â llwyddiant yr ŵyl eleni. Roedd ymestyn yr ŵyl i’w chynnal dros ddeuddydd yn fenter, ond credwn fod y fenter honno wedi talu ar ei chanfed.” Dywedodd hefyd, “mae Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio atom fel digwyddiad yng Nghymru â’r potensial i dyfu, a bydd y cyllid a ddarperir ganddynt yn ein cynorthwyo i ddatblygu’n gwefan i fod yn amlieithog, a hefyd yn cynyddu ein cynyrchiadau llwyfan. Dylai hyn fod o gymorth i ddenu mwy o gorau, o ardaloedd pellach i ffwrdd, a fydd yn gwario arian yn yr ardal leol. Y flwyddyn nesaf, rydym yn ystyried ymestyn yr ŵyl eto a’i chynnal dros dridiau, gan ddod â mwy o fudd economaidd yn ei sgil”
Cynhelir gŵyl y flwyddyn nesaf ar 26 – 28 Hydref, 2012.

{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)

{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.png)