Y Lleoliad

Y Lleoliad

Y Lleoliad

Mae’n beth anodd iawn rhestru’r holl bethau sydd i’w gwneud yng nghyrchfan wyliau glan môr fwyaf Cymru. Ble i ddechrau? Ydych chi awydd ymestyn eich coesau ar y pier hiraf yng Nghymru? Taith ar yr unig dramffordd gebl ym Mhrydain? Gallwch weld y golygfeydd o gar cebl teithwyr hiraf Prydain, neu anelu am y llethrau a rhoi cynnig ar eira-dybiau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i fynd o gwmpas y siopau, archwilio’r mwynglawdd gopr Oes Efydd a noswaith yn yr opera.

Pan fyddwch yn chwilio am rywle i aros, mae toreth o draddodiad yn Llandudno ond saif y dref â’i thraed yn sicr yn y presennol. Mae llety da traddodiadol yn wynebu’r traeth gyda llond llaw o westai boutique newydd yn dod i’r amlwg. Mae ychwanegiadau newydd yn cynnwys datblygiad manwerthu hynod ychydig gamau o’r prif fan siopa gydag enwau mwyaf o’r stryd fawr.

Un o’r pethau gorau am ymweld â glan môr ydi nad oes dim gwell na thaith gerdded ar hyd y rhodfa arbennig, ac ar ddiwrnod gwyntog mae’n ffordd wych o glirio’ch pen a magu archwaeth am fwyd. Fel unrhyw dref glan môr gwerth ei halen, mae Llandudno yn cynnig te prynhawn cyffredin a’r hen ffefryn o bysgod a sglodion. Ond mae blasau o bob cwr o’r byd yma hefyd, o’r Eidal i’r India, gyda digonedd o ddanteithfwyd lleol.

Os ydych chi’n cael trafferth meddwl am fwy o bethau i’w gwneud, beth am wneud castelli tywod, padlo, hedfan barcud - beth bynnag yr ewch i’r traeth ar ei gyfer, mae gan Landudno, nid yn un ond dau draeth banner las i chi ddewis o’u plith: Traeth y Gogledd (yr un efo’r Pier) a Phen Morfa (yr un heb). Tywod rhwng bodiau eich traed. Pendroni dros y geiriau mewn inja roc. Hufen iâ cyn amser gwely. Does dim i beidio’i hoffi am Landudno?

Os ydych chi eisiau ymlacio, ond eisiau gwneud yn siŵr fod pawb arall yn cael eu diddanu, unwaith byddwch wedi meistroli’r cadeiriau dec, ewch i weld Professor Codman’s Punch and Judy – un o sioeau hiraf Prydain. Neu ewch tua’r tonnau mewn cwch i weld y golygfeydd ar daith o lanfa’r promenâd. Cadw’ch lygad am Daith y Dref o gwmpas rhannau hanesyddol y dref – rhannau efallai na fuasech yn eu gweld fel arall.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.visitllandudno.org.uk

Tystebau

We had a wonderful weekend in your lovely Llandudno.  The ladies always enjoy this 'gig'.  It's like coming home! 

Siobhan Seberry, Sonata Singers 2011

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council