2009

2009

Gwyl Gorawl Gogledd Cymru 2009

November 7th 2009

Llandudno oedd yn hawlio’r holl sylw ddydd Sadwrn, Tachwedd 7 wrth i 19 côr o ar draws y DU ac Iwerddon gystadlu am dlws enillwyr 2009 a’r wobr ariannol.

Dechreuodd y gystadleuaeth am 10yb yn arena Venue Cymru gan ddechrau gyda’r adran ieuenctid.  Roedd y beirniadu yn broses anodd, ond Côr Ieuenctid Môn a enillodd yn y pendraw ac a aeth ymlaen i gynrychioli’r adran honno yng nghyngerdd yr enillwyr gyda’r nos. 

Nesaf i ganu ar y llwyfan oedd yr adran gymysg liwgar, gan ddod â pherfformiad gwych o Laudate i sicrhau’r wobr gyntaf o £500 i’r côr, Friday Voices, a’u lle haeddiannol yn y cyngerdd gyda’r nos.

Ar ôl cinio daeth tro’r merched, yr adran anoddaf yn y gystadleuaeth gyda 9 côr yn cystadlu.  Ond dim ond un enillydd oedd i fod ac ar ôl trafodaeth estynedig gyda’r beirniaid, y merched o Friday Voices a aeth yn eu blaenau.

Ar gyfer yr adran olaf a’r un yr oedd mwyaf o ddisgwyl amdani, y prynhawn hwyr oedd tro’r corau meibion grymus.  Cafwyd brwydr gyda pherfformiadau fel When the Saints Go Marching In ac African Trilogy, ond yn y pendraw Côr Meibion Shifnal & District aeth ymlaen i gynrychioli’u hadran yn y cyngerdd gyda’r nos.

Wrth i 8 o’r gloch agosáu roedd cannoedd o bobl gyda thocynnau yn gadael y X Factor ac yn dod i gyngerdd yr enillwyr gyda’r nos i glywed pwy fyddai’n cael eu coroni’n enillwyr cyffredinol 2009.

Roedd pedwar côr nerfus yn aros ar ymyl y llwyfan i roi eu perfformiadau gorau yn y gobaith o fod y gorau oll.  Tra bo’r beirniad yn penderfynu roedd perfformiad arbennig iawn gan enillydd Cân i Gymru Elfed Morgan Morris a swynodd y gynulleidfa gyda’i fersiwn o Gofidiau.

Pan ddarllenodd cyflwynydd y noson, Dilwyn Morgan o S4C, y canlyniadau i bawb, datgelodd mai Côr Cymysg Friday Voices oedd enillwyr y dydd.  Cawsant £500 ychwanegol, tlws yr enillwyr cyffredinol yr oedd awydd mawr amdano a pharch a chymeradwyaeth frwd pawb a oedd yn bresennol.

Os bu i chi golli cyngerdd eleni ac mae gennych ddiddordeb mewn cystadlu gyda chôr neu mewn bod yn rhan o’r gynulleidfa yn 2010 yna nodwch ddydd Sadwrn 6 Tachwedd yn eich dyddiadur.  I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiad.

Mwy...

Tystebau

Thank you for making Affinity welcome for the second year running, your team worked tirelessly.  Please thank them for their patience and hospitality.  Choirs - do sign up for next year.  It's a great seaside town, wonderful hotels and something for jsut about everybody - love it!!

Lesley Carson, Affinity Show Choir, 2011

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council