Datganiad i Gloi

Datganiad i Gloi

Datganiad i Gloi

Daeth 14 o gorau i Landudno'r penwythnos diwethaf ar gyfer 21ain Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru. Cynhesodd yr ŵyl i fyny ar nos Wener gyda chyngerdd gan Ysgol Uwchradd Loreto o Sir Corc, Iwerddon yng Ngwesty’r St George’s. Ymunodd corau eraill o Brydain ac Iwerddon gyda nhw yn y Gystadleuaeth yn ystod y dydd ar ddydd Sadwrn, gan gystadlu mewn 4 dosbarth: Ieuenctid, Cymysg, Merched a Chorau Meibion. Roedd pob côr yn cannu 2 gân yr un i banel o feirniaid, a oedd yn dewis enillydd o bob dosbarth i gystadlu yng Nghyngerdd yr Enillwyr gyda’r nos.

Y dosbarth cyntaf i wynebu’r beirniaid oedd y corau ieuenctid, a oedd yn cynnwys Côr Ieuenctid Môn; Ysgol Uwchradd Loreto, Iwerddon; Ensemble Lleisiol Lyndon, Bae Colwyn a’u cyd-fyfyrwyr hŷn Rydal Penrhos. Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth i’r holl gorau am eu perfformiadau didwyll, ond cafodd Côr Ieuenctid Môn eu henwi yn enillwyr y dosbarth.

Yr ail ddosbarth i gystadlu oedd y corau Cymysg, a oedd yn cynnwys Cantorion Cahirmee  o’r Iwerddon; Cantorion Rhos, Wrecsam; Côr Liffey, Iwerddon a Chôr y Gleision o Gaerdydd a enillodd y dosbarth y llynedd. Unwaith eto, roedd safon y corau’n eithriadol o uchel, fodd bynnag, dewiswyd côr arall o Ogledd Cymru: Cantorion Rhos i fynd ymlaen i’r cyngerdd gyda’r nos.

Ar ôl cinio, tro’r corau Merched oedd hi, gan gynnwys: Côr Merched Bro Nest, De Cymru; Cantorion Glenalua, Iwerddon a chôr Merched Sonata, hefyd o’r Iwerddon. Perfformiodd pob côr yn wych, ond dim ond un oedd yn gallu mynd drwodd, gyda Chôr Merched Bro Nest yn cael eu dewis fel enillwyr y dosbarth.

Grŵp olaf y dydd oedd dosbarth y Corau Meibion a dyma gystadleuaeth agosaf y dydd gyda Chôr Meibion Betws-yn-Rhos, Côr Dynion Kidderminster a Chôr Meibion Clwb Golff Sir Sligo yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Llwyddodd pob côr i gynnig rhywbeth gwahanol i’r dosbarth hwn, gyda’r perfformiadau yn amrywio o drefniadau Cymreig traddodiadol i Sea Shanty’s a hyd yn oed perfformiad o’r Bohemian Rhapsody gan Queen i ddiddanu’r gynulleidfa ymhellach. Gallai’r ddau gôr a gollodd ystyried eu hunain yn anlwcus, a gallai unrhyw un ohonynt fod wedi ennill yr adran ar achlysur arall. Ond, roedd rhaid gwneud penderfyniad, a Chôr Meibion Clwb Golff Sir Sligo fyddai’n chwifio’r faner i’r Iwerddon yn y cyngerdd gyda’r nos.

Daeth pob un o’r corau buddugol yn ôl yn llawn egni ar nos Sadwrn, a chafodd hyn ei drosglwyddo i’r gynulleidfa gan roi awyrgylch drydanol i arena Venue Cymru. Roedd gan bob côr 15 munud i ganu o flaen y beirniaid cyn i’r Cynghorydd Glyn Jones, Cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyflwyno tlysau i bob enillydd.

Rhoddodd pob un o’r corau gefnogaeth i’w gilydd drwy gydol yr ŵyl, a gafodd ei gynnal gydag ysbryd ardderchog. Ar ddiwedd y dydd er hynny, roedd rhaid cael enillydd, ac ar ôl llawer o drafod, dewisodd y beirniaid Gôr Meibion Clwb Golff Sir Sligo yn Enillwyr Cyffredinol Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru 2008. Roeddent wrth eu boddau gyda’u buddugoliaeth, yn yr un modd â’r gynulleidfa a oedd bron â bloeddio’r to i ffwrdd wrth glywed y cyhoeddiad!

Mae’r ŵyl yn dal i dyfu ac ni fyddai’n gallu digwydd heb gefnogaeth y noddwyr: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Stena Line, North Wales Pioneer, Pianos Cymru, Design 2 Print a Gwesty’r St George’s. Mae croeso bob amser i gael mwy o noddwyr i helpu’r ŵyl i ddatblygu ymhellach a gosod ei hun yn bendant ar y Calendr Corawl Rhyngwladol.

Y bwriad yw cynnal gŵyl y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn 7 Tachwedd, 2009 a bydd cyngherddau eraill yn cael eu cynnal drwy’r dref hefyd. Mae croeso i unrhyw gôr gymryd rhan, ac os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Alun Pritchard ar (01492) 575948.

Tystebau

We had a really good time with you all, the staff were just great and the venue is a wonderful facility for such events.

Lesley Carson, Affinity Show Choir 2010

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council