Beiriniaid

Beiriniaid

Beiriniaid

Peter Broadbent

Mae Peter Broadbent yn enwog fel arweinydd ‘the Joyful Company of Singers’, sy’n un gorau siambr blaenllaw Ewrop.  Mae wedi recordio llawer gyda nhw ac mae wedi ymddangos mewn cyngherddau ledled Ewrop ac Unol Daleithiau America.  Bu’n arwain sawl côr a cherddorfa broffesiynol ym Mhrydain ac Ewrop.  Bu hefyd yn beirniadu cystadlaethau corawl rhyngwladol a chynnal dosbarthiadau meistr a gweithdai ledled y byd.  Mae’n aelod o banel beirniad Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen.  Mae’n gyfarwyddwr Cyrsiau Arwain Corau.  Cyflwynwyd gwobr ‘Pro Cultura Hungarica’ iddo’n ddiweddar am ei wasanaeth i gerddoriaeth gorawl Hwngari.  Dyma’r pedwerydd tro iddo feirniadu yng Ngŵyl Gorawl Gogledd Cymru.

Nia Morgan

Astudiodd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd gan ganolbwyntio ar Biano ac Organ fel dau brif offeryn i'w hastudio.

Bellach mae'n byw yn Y Bala ac yn bennaeth ysgol gynradd. Mae wedi hyfforddi corau plant ers ddechrau ei gyrfa ac wedi cael llwyddiant cyson yn Eisteddfodau Cenedlaethol yr Urdd.
Mae hefyd yn adnabyddus fel hyfforddwr llais a phiano, ac mae'n organydd ac arweinydd corau a chymanfaoedd canu.

Mae'n gyfeilydd a beirniad cyson yn eisteddfodau Cymru ac mae wedi beirniadu mewn gwyliau cerdd yn Iwerddon yn ogystal.

Islwyn Evans

Astudiodd Islwyn Evans yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol, Caerdydd.  Cyflwynwyd Gwobr Ffederasiwn Arwain Corau Ieuenctid Prydain iddo yn ogystal â Chymrodoriaeth Winston Churchill, i astudio hyfforddi corau plant yn Sweden a Hwngari.  Mae wedi cynrychioli Cymdeithas Cyfarwyddwyr Corawl Prydain mewn cynadleddau corawl a drefnwyd gan ei chwaer gymdeithas, yr ACDA, yn Boston a Washington DC

Ef yw sefydlydd / cyfarwyddwr YSGOL GERDD CEREDIGION sydd wedi ennill sawl gwobr genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â bod yn enillwyr cyntaf cystadleuaeth gorawl bwysig ‘Côr Cymru’ S4C.  Mae hefyd yn cyfarwyddo CYWAIR ac maent wedi cael llwyddiant ysgubol ers iddynt gael eu sefydlu yn 2002.  Enillodd y côr siambr cyffrous hwn ‘Darian Ryngwladol Fleischmann’ bwysig yng Ngŵyl Gorawl Ryngwladol Corc.  Yn 2005 enillodd anrhydedd uchaf ‘Côr y Byd’ yn Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen.  CYWAIR hefyd oedd enillwyr cyntaf Tarian Pavarotti.  Enillodd CYWAIR gystadleuaeth ‘Côr Cymru’ 2007.

Mae Islwyn Evans wedi cyfarwyddo nifer helaeth o gyrsiau ac mae galw amdano’n aml fel tiwtor gwadd dros y ffin.  Ef oedd cyfarwyddwr cerdd Côr Ieuenctid Cymru 2005-07.  Mae wedi teithio’n helaeth ac mae newydd ddychwelyd ar ôl bod yn beirniadu yn Eisteddfod Patagonia.

Tystebau

Hon oedd ein cystadleuaeth gorawl gyntaf a gwnaethom fwynhau’r profiad yn fawr

Merfyn Walters, Ysgrifennydd Côr y Dreigiau

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council