2008

2008

Gwyl Gorawl Gogledd Cymru 2008

November 7th 2008

Gwelodd 2008 gystadleuaeth chwyrn ym mhob categori gan wneud i chi eistedd ar ymyl eich seddau! Cyrhaeddodd 14 côr, bob un gyda’u cefnogwyr unigryw eu hunain yn llawn gobaith o ennill yn 2008. Rhoddodd pob un berfformiad godidog a chafwyd croeso cynnes gan gefnogwyr hen a newydd.

Rhoddodd Kidderminster, y côr a ddaeth yn ail yn y categori dynion, berfformiad annisgwyl rhagorol yng nghyntedd y Venue i’r rheiny a oedd dal yno wedi’r gystadleuaeth gau. Pan ddechreuont ganu, safodd y staff a’r gwylwyr yn stond yn llawn edmygedd.

Ni fyddai’n bosibl i’r ŵyl ddigwydd heb gefnogaeth ei noddwyr. Hoffem ddiolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Stena Line, North Wales Pioneer, Pianos Cymru, Design 2 Print a Gwesty’r St George’s am eu cefnogaeth barhaus i’n helpu datblygu’r wŷl ymhellach.

Mae enillwyr cystadleuaeth 2008 fel a ganlyn:

Ieuenctid

  • 1af - Côr Ieuenctid Môn
  • 2il - Loreto Secondary School Choir
  • 3ydd - Lyndon Vocal Ensemble

Cymysg

  • 1af - Cantorion Rhos
  • 2il - Côr Y Gleision
  • 3ydd - The Liffey Choir

Merched

  • 1af - Côr Merched Bro Nest
  • 2il - Sonata Ladies Choir
  • 3ydd - Glenalua Singers

Meibion

  • 1af – Co. Sligo Golf Club MVC
  • 2il - Kidderminster Male Choir
  • 3ydd - Betws-yn-Rhos MVC

Mwy...

Tystebau

Mae Llandudno yn hyfryd – mae’r bobl yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn

Vera Byrne, Cantorion Glenalua

Website Copyright 2009 Conwy County Borough Council