{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDo0NTI6aGVpZ2h0OjE1ODpzY2FsZW1vZGU6Y3JvcDo=}.jpg)
Datganiad i Gloi
Dathlwyd 20 mlynedd o Ŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Sadwrn 3 Tachwedd. Daeth 11 côr o bob cwr o’r DU ac Iwerddon i gystadlu mewn 3 dosbarth: Ieuenctid, Lleisiau Cyfartal a Chymysg.
Yn ddiweddar, daeth Adain Farchnata a Chyfathrebu Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gyfrifol am redeg yr Ŵyl ac felly, roedd hwn yn brofiad newydd i bawb a oedd yn gysylltiedig â’r ŵyl. Dechreuodd y bore gyda’r adran Ieuenctid. Roedd 3 chôr yn cystadlu yn yr adran hon: Côr Coleg Cymunedol Lucan; Côr Hŷn Glanaethwy a Chôr Iau Glanaethwy.
Ar ôl llawer o ystyriaeth penderfynodd y beirniaid mai’r côr ieuengaf, Côr Iau Glanaethwy, oedd enillwyr y dosbarth, gan orfodi eu côr hŷn i fodloni ar yr ail safle. Sefydlwyd y dosbarth Lleisiau Cyfartal ar ôl i ddau gôr meibion orfod tynnu allan ar y funud olaf. Ond, ni lwyddodd hynny i dawelu’r gystadleuaeth a dyfarnwyd gwobr gyntaf y dosbarth i Gôr Meibion Shifnal, a gurodd corau fel y Mountain Harmony Barbershop Chorus, Cantorion Pontyclun Ladies Choir a’r Glenalua Singers.
Adran olaf y diwrnod oedd y dosbarth Cymysg. Roedd hwn yn cynnwys Y Gleision a’r Dreigiau. Roedd yn ddau yn bresennol ar gyfer rhaglen S4C ‘Codi Canu’. Mae’r corau wedi bod gyda’i gilydd am tua blwyddyn yn unig ac maent wedi’u ffurfio o gefnogwyr timau rygbi rhanbarthol Cymru. Enillodd Y Dreigiau gyfres gyntaf y rhaglen a chyfle i ganu’r Anthem Genedlaethol cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni.
Dyma oedd cystadleuaeth agosaf y diwrnod, gyda’r beirniaid hyd yn oed yn gwirio nad oedd modd pennu bod y ddau yn gyfartal ail. Ar ôl 15 munud o ystyriaeth cyhoeddwyd mai’r Gleision oedd enillwyr y dosbarth gan guro’r Dreigiau o drwch blewyn yn yr ail safle, yr Oriel Singers a Chôr Eglwys St Patrick oedd y corau eraill yn y dosbarth. Roedd yr arena yn Venue Cymru yn orlawn y noson honno wrth i’r gynulleidfa aros yn awyddus am y perfformiadau gan bob un o’r enillwyr dosbarth, yn ogystal â pherfformiad agoriadol gan Y Dreigiau.
Ar ôl y perfformiad agoriadol a’r seremoni wobrwyo (pan gyflwynwyd Cyfarwyddwr Cerdd pob côr buddugol â’u tlws a siec gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Bill Roberts), cynhaliwyd cystadleuaeth olaf yr Ŵyl. Rhoddwyd 15 munud i bob un o’r corau buddugol berfformio amrywiaeth o ganeuon o’u dewis a chafodd pob un, dderbyniad croesawgar gan y gynulleidfa. Roedd y corau i gyd o’r ansawdd gorau gyda’r beirniaid yn cyfeirio at ddiffuantrwydd eu perfformiadau a’r ymdrech amlwg o oedd wedi’i gwneud cyn y gystadleuaeth. Eto, cafwyd oedi hir cyn cyhoeddi enillydd ac roedd Arweinydd y Noson, Dilwyn Morgan, ar ei orau yn cynnal diddordeb y gynulleidfa gyda’i repertoire o jôcs, gyda’r gynulleidfa yn ei dyblau yn ystod yr oedi - arwydd o ba mor anodd oedd y penderfyniad.
Ond, gwnaethpwyd penderfyniad a chyhoeddwyd bod Côr Iau Glanaethwy yn enillwyr cyffredinol y gystadleuaeth, er bodd y gynulleidfa a safodd fel un i’w cymeradwyo. Roedd diwedd y noson yn uchafbwynt gyda pherfformiad terfynol gan y côr buddugol, roedd eu brwdfrydedd wedi dod â chymaint i’r Ŵyl.
Rhaid diolch i’r holl staff yn Venue Cymru, yn enwedig y stiwardiaid, a oedd yn wych trwy’r dydd. Cynhelir digwyddiad y flwyddyn nesaf ddydd Sadwrn 8 Tachwedd ac mae’r trefnwyr yn dymuno datblygu’r digwyddiad i fod yn ŵyl ryngwladol o bwys. Mae gwefan yn cael ei hadeiladu ar gyfer yr ŵyl a dylai fod yn barod erbyn mis Chwefror 2008. Bydd ffurflenni cystadlu ar gyfer Gŵyl 2008 yn cael eu hanfon yn fuan felly dewch draw i fwynhau’r Ŵyl ryfeddol hon a gweld y prydferthwch mae Gogledd Cymru yn ei gynnig.{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)