Beiriniaid
Peter Broadbent
Peter Broadbent yw un o brif arweinyddion corawl Prydain, yn enwog am ei ymwybyddiaeth o ffaswin, ehangder ei brofiad a’i ymroddiad i gerddoriaeth gyfoes. Ym 1988, ffurfiodd y Joyful Company of Singers, a sefydlodd ei hun yn gyflym fel un o brif gorau siambr Ewrop, sydd wedi ennill nifer nodedig o Gystadlaethau Cenedlaethol a Rhyngwladol. Mae perfformiadau yn y DU wedi cynnwys y rhan fwyaf o’r prif wyliau cerdd, gan gynnwys nifer o ymddangosiadau mewn “Proms”, ac maent wedi cynnal cyngherddau ledled Ewrop ac UDA. Mae’r JCS wedi recordio CDs ar gyfer Chandos, ASV, EMI Classics, Naxos a Warner Classics, yn ogystal â recordio traciau sain ar gyfer y teledu a ffilmiau.
Mae Broadbent yn mwynhau gyrfa llawn amrywiaeth gyda repertoire sy’n amrywio o Gerddoriaeth Faróc wedi’i pherfformio ar offerynnau o’r cyfnod, i gerddoriaeth gyfoes, gan gynnwys nifer o ddarnau wedi’u perfformio am y tro cyntaf. Yn y DU mae wedi arwain y London Mozart Players, Cerddorfa Siambr Divertimenti, Cerddorfa Siambr Lloegr, y City of London Sinfonia, y Royal Philharmonic Orchestra, y Southern Sinfonia a Chantorion y BBC, gan ddarlledu’n aml ar BBC Radio 3 a Classic FM. Mae gwaith arall wedi cynnwys cyngherddau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Debrecen a Chorws Kodály yn Hwngari, cyngerdd wedi’i ddarlledu gyda’r Côr Siambr Cenedlaethol yn Nulyn, gweithdy yn Europa Cantat XV yn Barcelona yn 2003, a thaith gyda Chôr Ieuenctid y Byd ym mis Gorffennaf 2006 yn yr Eidal, y Swistir, Ffrainc, Gwlad Belg a’r Almaen.
Mae Peter Broadbent yn beirniadu mewn Cystadlaethau Corawl Rhyngwladol ledled Ewrop ac yn y DU, ac mae’n cyflwyno seminarau a dosbarthiadau meistr yn y DU, Ewrop, De Affrica, UDA a Chanada. Mae’n gyfarwyddwr Cyrsiau Arwain Corawl Cymdeithas Cyfarwyddwyr Corawl Prydain, ar ôl iddo symbylu a llunio’r cwricwlwm ar gyfer y cyrsiau. Yn ddiweddar, cyflwynwyd Gwobr “Pro Cultura Hungarica” iddo gan Weinyddiaeth Addysg a Diwylliant Gweriniaeth Hwngari am ei lwyddiant amlwg yn hyrwyddo Cerddoriaeth Hwngaraid.
Colin Durrant
Mae’r Dr Colin Durrant yn arwain y rhaglen ar gyfer graddedigion mewn Addysg Gerdd yn Sefydliad Addysg Prifysgol Llundain. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithgareddau Corawl yn y New England Conservatory yn Boston, yn Athro Cysylltiol ymweliadol yn yr Ysgol Gerdd ym Mhrifysgol Maryland ac yn Ben Ddarlithydd Cerdd ac Addysg Gerdd ym Mhrifysgol Surrey Roehampton.
Mae gan Colin amrywiaeth eang o brofiadau arwain corawl a dysgu ac, ar ôl ei ymchwil i faes arwain corawl effeithiol, dyluniodd a datblygodd rhaglen raddedig mewn Addysg Gorawl, y cyntaf o’i bath yn y DU ac mae’n un o’r tiwtoriaid/arweinwyr ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Corawl Prydain. Mae wedi cyhoeddi llawer o erthyglau ar arwain corawl ac addysg gerdd; cyhoeddwyd ei lyfr, Choral Conducting: Philosophy and Practice yn 2003. Mae hefyd yn aelod o fwrdd golygyddol yr International Journal of Research in Choral Singing. Mae Colin wedi arwain gweithdai arwain yn UDA, Awstralia, Taiwan, Hong Kong, Maleisia ac yn Ewrop a’r DU. Ar hyn o bryd mae’n arwain Côr Siambr Prifysgol Llundain a Chôr Imperial College.
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)
{X3Jlc2l6ZTp3aWR0aDoxNTA6aGVpZ2h0OjIwMDpzY2FsZW1vZGU6YmVzdGZpdDo=}.jpg)